Eich Iaith Fewnol sy’n Bwysig:

Pam Rwy’n gweithio’n Ddwyieithog gyda Chleientiaid

Your inner voice matters: Why I work bilingually with clients

Mae’r ffordd rydyn ni’n siarad â’n hunain yn siapio ein profiad o’r byd o’n cwmpas. Whether we’re navigating anxiety, self-doubt, or simply trying to stay grounded in a busy world, our inner language, y llais bach yna y tu mewn, makes a difference.

Pan fydda i’n gweithio gyda chleientiaid, dw i’n aml yn gofyn: Sut wyt ti’n siarad gyda thi dy hun? Pa iaith wyt ti’n ei defnyddio pan fydd y pryder yn dechrau tyfu? For many of my Welsh-speaking clients, the answer is both languages. One moment the internal dialogue is in Welsh—cynnes, uniongyrchol, cartrefol—and the next, English creeps in, often in the form of critical thoughts or habits learned from systems, school, or wider culture.

Dyna Pam ‘dw i’n Gweithio’n Ddwyieithog

Because the language we use to understand, heal and grow needs to feel safe, personal and powerful, dw i’n defnyddio’r Gymraeg pan mae’n rhoi llais gwell i deimlad. I switch to English when it helps explain a psychological tool, or vice versa. Sometimes, we move between the two naturally in the space of a sentence. Ac mae hynny’n iawn. It reflects how our minds actually work.

Mewn sesiwn, gall cleient ddefnyddio’r Gymraeg i ddisgrifio sut mae'r pryder yn teimlo yn y corff, ac wedyn fwrw golwg ar y camau ymarferol drwy Saesneg. Neu i’r gwrthwyneb. The important thing isn’t sticking to one language, it’s giving space for both voices to express themselves fully.

It’s More than Translation, it’s Emotional Fluency

Mae gweithio’n ddwyieithog yn fwy na dim ond cyfieithu geiriau. Mae’n ymwneud â chreu gofod diogel lle gall cleientiaid deimlo’n rhydd i siarad, meddwl a mynegi eu hunain yn y ffordd fwyaf naturiol iddyn nhw. Sometimes, a single Welsh word carries emotional weight that English simply can’t reach, and vice versa.

Felly... Eich Iaith Fewnol sy’n Bwysig

Nid iaith arwynebol, ond y geiriau sy’n troi o fewn y meddwl, y rhai sy’n cael eu ffeindio mewn emosiwn sy’n bwysig. The STILL Method supports clients to pause, reflect, and reshape their inner narrative. Doing that bilingually gives more flexibility, more nuance, and ultimately, more power to the process.

Os wyt ti’n meddwl yn Gymraeg, teimlo’n Gymraeg, neu siarad yn Gymraeg gyda’r rhai agosaf atat ti, pam lai gwella’n emosiynol yn y Gymraeg hefyd?

If you switch between languages in your thoughts, your healing can too.

Yn Gymraeg, Saesneg neu’n ddwyieithog, byddwn i wrth fy modd yn trafod sut allwn ni weithio gyda’n gilydd i adeiladu llais mewnol sy’n dosturiol, cadarn ac yn gwbl unigryw i ti.

Whether you feel more you in Welsh, English or a mix of both, let’s talk about how coaching can support your journey to a calmer, kinder inner voice.

Because your inner language matters. Eich iaith fewnol sy’n bwysig.

Next
Next

Workplace Stress: