O Lanast i Lonyddwch

STILL Method gyda Sioned Roberts

Dull ymarferol ar gyfer rheoli pryder a meithrin lles. 

Haia – Sioned ydw i! Rwy’n ymarferydd lles, hyfforddwraig, arbenigwraig ADY ac yn fentor angerddol dros iechyd meddwl cadarnhaol o’r ystafell ddosbarth i’r ystafell fwrdd. Fel hyfforddwraig achrededig ACCPH, rwy’n defnyddio’r STILL Method i helpu plant ac oedolion i oresgyn pryder, adennill hyder a meithrin llonyddwch mewn byd llawn straen.

Mae’r STILL Method yn rhaglen 6 wythnos sy’n defnyddio dull cam-wrth-gam i feithrin gwytnwch emosiynol, rheoli straen, a datblygu hunanreolaeth. Ac ydi – mae’n gweithio! Mewn ysgolion, cartrefi a sefydliadau, dwi wedi gweld trawsnewidiadau go iawn.

Beth sy’n gwneud y STILL Method mor wahanol? Mae’n ymarferol, yn hwyliog ac yn cynnig technegau syml megis tawelu’r corff a’r meddwl (daearu) a meddylgarwch. Mae’n berthnasol i fywyd pob dydd, ac yn defnyddio iaith syml a delweddau clir. 

Yn ystod y sesiynau cyntaf, rydyn ni’n helpu pobl i ddeall beth yw pryder a sut mae’n datblygu dros amser. O’r fan honno, byddwn yn adeiladu sgiliau un cam ar y tro i adnabod, ailfframio a rheoli emosiynau. Drwy greu ‘toolkit’ personol, mae unigolion yn magu hyder, gwytnwch, hunan-reoleiddio ac yn dysgu mynegi eu hunain yn hyderus mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn.

S – STOP
T – TALK

I – IMAGINE
L – LISTEN
L – LEARN

Mae’r dull STILL wedi’i adeiladu ar bum elfen allweddol sy’n cynnig strwythur cadarn ond cynnil i unrhyw un sy’n wynebu pryder.

Rydyn ni’n dechrau gyda Stop’ – cam sy’n ein hannog i arafu a dod yn bresennol yn y foment.

Yna daw ‘Talk’, lle rydyn ni’n rhoi geiriau i’n teimladau ac yn dechrau torri’r tawelwch mewnol.

Wrth symud ymlaen i ‘Imagine’, rydyn ni’n meithrin creadigrwydd a gallu i ddychmygu atebion gwahanol.

Mae ‘Listen’ yn dysgu gwrando’n wirioneddol – arnom ni’n hunain ac ar eraill – ac yn olaf, ‘Learn’, lle caiff profiad ei drawsnewid yn ddealltwriaeth a strategaethau i’r dyfodol.

Meithrin Diwylliant o Les – Un Cam ar y Tro

Pan fyddwn yn ymwybodol o’n hemosiynau ein hunain, yn enwedig pryder, gallwn ymateb yn fwy tosturiol i eraill. Yn hytrach na gweld tawelwch fel moethusrwydd prin, mae’n bwysig creu lle iddo bob dydd, fel rhan annatod o’n harferion. Mae’r iaith rydym yn ei defnyddio yn allweddol, gan fod geiriau sy’n annog, sy’n cydnabod, ac sy’n gwrando heb orfodi yn helpu creu amgylchedd o gefnogaeth a lles.

O’r Ystafell Ddosbarth i’r Ystafell Fwrdd

Mae’r STILL Method wedi ei seilio ar egwyddorion seicoleg gadarnhaol, CBT, rhaglenni niwro-ieithyddol a datblygiad personol. Mae’r canlyniadau’n siarad drostynt eu hunain, gydag unigolion yn gadael y cwrs yn teimlo’n fwy hyderus, gyda sgiliau pendant i reoli pryder, ac i dyfu fel pobl gytbwys.

Ymunwch â’r Daith

Rwy’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda mwy o ysgolion, busnesau ac elusennau ledled Cymru. Os ydych chi’n chwilio am gefnogaeth sydd yn greadigol, tosturiol ac yn seiliedig ar hyfforddiant ymarferol – byddwn i wrth fy modd yn clywed gennych. Gadewch i ni drafod sut gallwn ni greu newid cadarnhaol gyda’n gilydd…

Dewch i gysylltu - yn Gymraeg neu Saesneg – mae iechyd meddwl yn dechrau gyda’ch iaith fewnol. O lanast i lonyddwch – gadewch i ni ddechrau gyda S.T.I.L.L.

Previous
Previous

Workplace Stress: